#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

1.       Cyflwyniad

Mae’r papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau sy’n berthnasol i Gymru o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cynnwys adrannau ar waith y Cynulliad a Llywodraeth Cymru; ar lefel yr UE; ar lefel y DU; yr Alban ac Iwerddon. Mae’n ymdrin â’r cyfnod rhwng 15 Mawrth a 3 Ebrill er y cyfeirir at ddigwyddiadau diweddarach lle y mae gwybodaeth ar gael ar adeg y drafftio terfynol.

2.       Datblygiadau yng Nghymru

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yw prif bwyllgor y Cynulliad ar gyfer cydgysylltu gweithgareddau’r Pwyllgorau sy’n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Pwyllgor yn cwblhau ymchwiliad i’r goblygiadau posibl i Gymru wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar 27 Mawrth, cynhaliodd y Pwyllgor gynhadledd, ‘Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Beth nesaf yng Nghymru?’. Daeth y gynhadledd â chyrff a sefydliadau allweddol ynghyd o bob rhan o Gymru i drafod blaenoriaethau i Gymru yn nhrafodaethau’r DU wrth adael yr UE.

Dyma sesiynau mwyaf diweddar ymchwiliad y Pwyllgor:

§    20 Mawrth: Parhaodd y Pwyllgor â’i Ymchwiliad i bolisi rhanbarthol - beth nesaf i Gymru? gyda sesiwn dystiolaeth. Roedd y tystion yn cynnwys Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

§    27 Mawrth: Cynhadledd gadael yr Undeb Ewropeaidd.

 

Mae gwybodaeth reolaidd am waith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i’w gweld ar flog y Cynulliad: https://blogcynulliad.com/?s=Undeb+Ewropeaidd

Cyhoeddir blogiau’r Gwasanaeth Ymchwil ar Pigion. Y blog Brexit diweddaraf yw: Mae erthygl 50 wedi’i thanio; beth sy’n digwydd nesaf?

Adroddiadau eraill

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru, ac mae wedi cyhoeddi ei adroddiad ar Ddyfodol Polisïau Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yng Nghymru.

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cau ei ymgynghoriad ar sut beth fydd hawliau dynol yng Nghymru yn dilyn Brexit? a bydd yn dechrau trafod y dystiolaeth.

Mae ‘Goblygiadau gadael yr UE ar y gweithlu meddygol’ yn rhan benodol o gylch gorchwyl ymchwiliad cyfredol y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i recriwtio meddygol. Bydd yr ymchwiliad hwn yn parhau i gasglu tystiolaeth lafar drwy gydol mis Mawrth.

Dadleuon yn y Cyfarfod Llawn

22 Mawrth: Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y goblygiadau i Gymru o adael yr Undeb Ewropeaidd. Parhaodd y ddadl a nodwyd yr adroddiad ar 28 Mawrth.

29 Mawrth: Datganiad gan y Prif Weinidog: Ymateb i Erthygl 50, gyda chwestiynau yn dilyn.

Llywodraeth Cymru

15 Mawrth: Dwy gronfa datblygu eiddo gyda help yr UE i roi hwb o £40m i seilwaith y Gorllewin a’r Cymoedd

15 Mawrth: Arian yr UE yn cefnogi ceiswyr gwaith ym Mhowys.

22 Mawrth: Hwb o £5 miliwn i brifysgolion Cymru.

23 Mawrth: Prynwyr byd-eang yn cael blas ar Gymru mewn ymdrech i gyrraedd marchnadoedd newydd ar ôl Brexit.

24 Mawrth: Prosiect UE newydd i wella’r seilwaith arfordirol yng Nghymru ac Iwerddon.

28 Mawrth: Cadarnhaodd Lesley Griffiths heddiw y bydd yn rhoi’r £223 miliwn sy’n weddill o dan raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020.

Newyddion

16 Mawrth: Gyda Brexit ar fin digwydd, mae angen modelu economaidd ar y DU ar frys (Undeb Amaethwyr Cymru)

17 Mawrth: Mae CLA yn nodi’r llinellau coch ar gyfer bwyd a ffermio mewn cytundeb masnach rhwng y DU a’r UE.

20 Mawrth: Cyflwynodd NFU Cymru dystiolaeth yn ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig i adael yr UE.

21 Mawrth: Cynllun 10 pwynt i ddiogelu Caerdydd ar ôl gadael yr UE - Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd.

24 Mawrth: Polisïau arloesol wedi’u llunio yng Nghymru yn allweddol i sector amaethyddol llwyddiannus ar ôl gadael yr UE – yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

28 Mawrth: Gwaddol cyllid yr UE wrth i ad-daliadau’r Gronfa Fuddsoddi Cymunedol gael eu hailfuddsoddi yn y sector. (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru)

28 Mawrth: Dangos gwir fudd cyllid yr UE yn nigwyddiad trydydd sector mwyaf erioed WCVA.

3.       Y diweddaraf o’r UE

Y Cyngor Ewropeaidd 

15 Mawrth: Adroddiad gan yr Arlywydd Donald Tusk i Senedd Ewrop ar y Cyngor Ewropeaidd ar 9 Mawrth a’r cyfarfod anffurfiol o’r 27 o benaethiaid gwladwriaethau a llywodraethau ar 10 Mawrth, a’i sylwadau terfynol.

17 Mawrth: Araith gan yr Arlywydd Donald Tusk i Lefaryddion Seneddau’r UE yn Rhufain.

21 Mawrth: Galwodd yr Arlywydd Tusk gyfarfod o’r Cyngor Ewropeaidd (heb y DU) ar Brexit ar gyfer 29 Ebrill. Pwysleisiodd ei bod yn rhaid i’r trafodaethau gael prif flaenoriaeth o greu cymaint o sicrwydd ac eglurder ag y bo modd i bob dinesydd, cwmni ac aelod-wladwriaeth y bydd Brexit yn effeithio arno yn negyddol yn ogystal ag ar gyfer partneriaid a chyfeillion pwysig yr UE drwy’r byd.

25 Mawrth: Araith yr Arlywydd Donald Tusk yn y Seremoni i nodi 60 mlynedd ers Cytuniadau Rhufain.

25 Mawrth: Datganiad Rhufain.

Y Comisiwn Ewropeaidd

15 Mawrth: Gorfodi rheolau ar hyd y gadwyn fwyd-amaeth yn yr UE.

17 Mawrth: Ailddechrau mewnforio cynhyrchion organig o Norwy a Gwlad yr Iâ i’r UE  - yn dilyn oedi wrth ymgorffori rheoliadau newydd yng nghytundeb Ardal Economaidd Ewrop.

22 Mawrth: Araith gan Michel Barnier, Prif Drafodwr o ran Paratoi a Chynnal y trafodaethau gyda’r Deyrnas Unedig, yn sesiwn lawn y Pwyllgor y Rhanbarthau Ewropeaidd.

22 Mawrth: Cofrestrodd Comisiwn Ewropeaidd ddwy fenter dinasyddion Ewropeaidd ar hawliau dinasyddion yr Undeb ar ôl Brexit a gwrthododd un fenter i atal Brexit.

24 Mawrth: Cytuniadau Rhufain yn 60: Y Comisiwn yn cofio cyflawniadau Ewrop ac yn arwain y drafodaeth ar y dyfodol yn 27.

Senedd Ewrop

15 Mawrth: casgliadau uchgyfarfodydd a dyfodol yr UE yw’r prif ddadleuon yng nghyfarfod llawn dydd Mercher.

15 Mawrth: Twf cynaliadwy, swyddi a diogelwch: ASEau yn mabwysiadu blaenoriaethau cyllideb 2018.

17 Mawrth: Yn y cyfarfod llawn yr wythnos hon: bwyd diogel, ymdoddi’r capiau iâ a rhagfarn na fydd yn mynd ymaith.

27 Mawrth: Llywydd Tajani ar drigeinmlwyddiant yr UE: “Dylem fod yn falch o’r etifeddiaeth.”

Newyddion Ewropeaidd

28 Mawrth: Yn ôl gwerthusiad newydd mae bron un o bob deg o gwmnïau Almaenig am symud eu gweithgareddau o’r DU. Gostyngodd allforion o’r Almaen i’r DU 3.5 y cant yn 2016, ar ôl y refferendwm yn bennaf. (Frankfurter Allgemeine yn dyfynnu Siambrau Diwydiant a Masnach yr Almaen (DIHK) - y gwreiddiol yn Almaeneg).

28 Mawrth: Galwodd Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol am i ranbarthau gael eu cynrychioli yn nhrafodaethau Brexit.

4.       Datblygiadau yn y DU

16 Mawrth: Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysiad i Adael).

Llywodraeth y DU

15 Mawrth: Anerchodd y Gweinidog David Jones arweinwyr y diwydiant cludo nwyddau a thrafnidiaeth.

20 Mawrth: Ymwelodd Prif Weinidog y DU â Chymru fel rhan o’i hymgysylltu parhaus â’r gwledydd datganoledig cyn i Erthygl 50 gael ei thanio.

26 Mawrth: Ymwelodd Prif Weinidog y DU â’r Alban i egluro’r cynllun ar gyfer Prydain.

29 Mawrth: Hysbysodd Syr Tim Barrow, Cynrychiolydd Parhaol y DU i’r Undeb Ewropeaidd, yn ffurfiol swyddfa Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, o fwriad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd o dan Erthygl 50 o Gytuniad Lisbon.

30 Mawrth: Cyhoeddodd y Llywodraeth Bapur Gwyn ar Fil y Diddymu Mawr.

Tŷ’r Cyffredin

22 Mawrth: Cytunwyd ar gynnal Darlleniad Cyntaf ar gyfer Bil Telerau Ymadael â’r UE (Refferendwm). Cynhelir yr Ail Ddarlleniad ar 12 Mai.

23 Mawrth: Cwestiynau am reolau Sefydliad Masnach y Byd, i’w hateb gan Mark Garnier, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol.

14 Mawrth: Pwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Cytuno ar amcanion y DU ar gyfer ymadael â’r UE - Tystiolaeth Sadiq Khan, Maer Llundain.

15 Mawrth: Clywodd Pwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd gan David Davis AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd.

15 Mawrth: Cynhaliodd Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ei sesiwn dystiolaeth olaf fel rhan o’i ymchwiliad i Fwydo’r Genedl: cyfyngiadau llafur. Rhoddodd George Eustice a Robert Goodwill dystiolaeth (Y Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Bwyd a Materion Gwledig a’r Gweinidog dros Fewnfudo).

15 Mawrth: Crynodeb o Gyfarfod y Pwyllgor Craffu ar Ewrop - trafodwyd y cytundeb y dyfodol rhwng Europol a Denmarc.

15 Mawrth: Sut y mae trafodaethau TTIP wedi llywio trafodaethau masnach rhwng y DU a’r UDA yn y dyfodol? Cymerodd y Pwyllgor Masnach Ryngwladol dystiolaeth.

20 Mawrth: Mae ASau o bedwar pwyllgor dethol wedi dod ynghyd i lansio, yn ddigynsail, ymchwiliad ar y cyd ar ansawdd aer i graffu ar gynlluniau traws-lywodraethol i fynd i’r afael â mannau o lygredd trefol problemus.

20 Mawrth: Cymerodd y Pwyllgor Craffu ar Ewrop dystiolaeth gan David Jones AS, Gweinidog Gwladol, Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd, a Syr Tim Barrow KCMG, Cynrychiolydd Parhaol y DU i’r UE, yn un o’i sesiynau ar gysylltiadau’r UE a’r DU wrth baratoi ar gyfer Brexit.

20 Mawrth: Ymwelodd y Pwyllgor Materion Cymreig â Dolgellau i lansio cam nesaf ei ymchwiliad Gadael yr UE: Amaethyddiaeth, gan glywed gan Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr.

21 Mawrth: Trafododd y Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol fynediad at farchnad ynni fewnol yr Undeb Ewropeaidd a pherthynas y DU a’r UE o ran ynni ar ôl Brexit.

23 Mawrth: Ymwelodd y Pwyllgor Materion Cartref â Wakefield am sesiwn dystiolaeth ar fewnfudo.

28 Mawrth: Parhaodd y Pwyllgor Masnach Ryngwladol â’i ymchwiliad i gysylltiadau masnach rhwng y DU a’r Unol Daleithiau gyda sesiwn yn cynnwys cynrychiolwyr o Sefydliad y Cyfarwyddwyr a BritishAmerican Business.

29 Mawrth: Archwiliodd Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig brofiad twristiaeth wledig yng Nghymru a’r Alban. Un o’r tystion oedd Dr Manon Antoniazzi, Cyfarwyddwr, Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Llywodraeth Cymru, a darpar Brif Weithredwr Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

24 Chwefror: Sicrhau deddfwriaeth cydraddoldeb gref ar ôl gadael yr UE - adroddiad y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb.

17 Mawrth: Cyhoeddodd Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ei adroddiad Coedwigaeth yn Lloegr: Gweld y coed a’r prennau.

20 Mawrth: Rhaid i’r Trysorlys yn ymchwilio a all pwerau trethu ôl-Brexit roi hwb i dwristiaeth - Adroddiad y Pwyllgor Materion Gogledd Iwerddon.

21 Mawrth: Cyhoeddodd Is-bwyllgor Ynni ac Amgylchedd yr UE dystiolaeth ysgrifenedig Undeb Amaethwyr Cymru i ymchwiliad Brexit: Amaethyddiaeth.

22 Mawrth: Rhaid i’r Llywodraeth ymdrin â phedair blaenoriaeth ar gyfer y system cyfiawnder wrth drafod perthynas newydd y DU â’r UE: Adroddiad y Pwyllgor Cyfiawnder Goblygiadau Brexit gyfer y system cyfiawnder  .

24 Ebrill: Bydd Prif Weinidog y DU yn cael ei holi gan y Pwyllgor Cyswllt  .

Tŷ’r Arglwyddi

Mae Pwyllgor Undeb Ewropeaidd Tŷ’r Arglwyddi a’i chwe is-bwyllgor yn cynnal “cyfres gydgysylltiedig o ymholiadau ar y materion allweddol a fydd yn codi yn y trafodaethau sydd i ddod ar adael yr Undeb Ewropeaidd”.

15 Mawrth: Cwestiynau ynghylch Prifysgolion: Myfyrwyr yr Undeb Ewropeaidd.

20 Mawrth: Cwestiynau ynghylch Brexit: Rhaglen Trafodaethau.

21 Mawrth: Dadl ar ymateb y Llywodraeth i Adroddiad Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd Brexit: Gibraltar.

23 Mawrth: Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Amser Beiddgarwch: Aelodaeth o’r UE a Gwyddoniaeth y DU ar ôl y Refferendwm, gyda dadl yn dilyn ar adroddiad Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd Brexit: yr amgylchedd a newid hinsawdd.

15 Mawrth: Trafododd cynrychiolwyr y diwydiant technolegol, techUK, ddiogelu data’r UE ag Is-bwyllgor Materion Cartref yr UE.

21 Mawrth: Brexit a Gogledd Iwerddon: cyn arweinwyr pleidiau yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor yr UE ar effaith Brexit ar Ogledd Iwerddon.

22 Mawrth: Holwyd David Davis AS ynghylch Erthygl 50 a Brexit gan Bwyllgor yr UE fel rhan o’i waith craffu ar Brexit.

22 Mawrth: Mae Is-bwyllgor Materion Cartref yr UE wedi dechrau ymchwiliad newydd i Gydweithredu â’r UE o ran Cyfiawnder Troseddol ar ôl Brexit: Y Gwarant Arestio Ewropeaidd.

24 Mawrth: Mae ymchwiliad Pwyllgor yr UE yn parhau ynghylch Brexit: datganoli, a chafwyd tystiolaeth gan yr Arglwydd McConnell, cyn-Brif Weinidog yr Alban, am effaith Brexit ar yr Alban.

16 Mawrth: Ymateb y Llywodraeth adroddiad Is-bwyllgor Ynni ac Amgylchedd yr UE Tŷ’r Arglwyddi ar ddyfodol pysgodfeydd yng ngoleuni’r bleidlais i adael yr UE.

20 Mawrth: Mae Is-bwyllgor Materion Ariannol yr UE wedi cael ymateb gan y Farwnes Neville-Rolfe, Ysgrifennydd Masnachol, Trysorlys EM, gan gynnwys ymateb y Llywodraeth i adroddiad y pwyllgor, Brexit: gwasanaethau ariannol, a gyhoeddwyd ar 15 Rhagfyr 2016.

20 Mawrth: Brexit: cyfiawnder i deuluoedd, unigolion a busnesau? adroddiad a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Cyfiawnder yr UE.

22 Mawrth: Mae angen cytundeb masnach cynhwysfawr ac unigryw ar y DU i ddiogelu sectorau gwasanaethau - adroddiad Is-bwyllgor Marchnad Fewnol yr UE ar oblygiadau Brexit i fasnach y DU mewn gwasanaethau nad ydynt yn ariannol gyda’r UE.

27 Mawrth: Ymateb Pwyllgor Materion Allanol yr UE a Pwyllgor Marchnad Fewnol yr UE i ymateb y Llywodraeth i Brexit: yr opsiynau ar gyfer masnach.

28 Mawrth: Mae angen eglurder ynghylch mynediad y DU i’r Farchnad Sengl Ddigidol ar ôl Brexit - adroddiad y Pwyllgor Craffu ar Ewrop.

5 Ebrill: Mae Is-bwyllgor Ynni ac Amgylchedd yr UE wedi lansio ymchwiliad byr i Brexit: lles anifeiliaid fferm, sef trafodaeth bord gron ddydd Mercher 5 Ebrill, lle bydd academyddion ac arbenigwyr y diwydiant yn rhoi tystiolaeth ar les anifeiliaid fferm a Brexit.

Newyddion

17 Mawrth: Beth fydd yn digwydd os nad oes cytundeb? - Cydffederasiwn Diwydiant Prydain

21 Mawrth: ASau yn cefnogi galwad CLA ar gyfer polisi ôl-Brexit i gefnogi yn well y sector coedwigaeth.

26 Mawrth: Amlinellodd Consortiwm Manwerthu Prydain, Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru a Lloegr (NFU) a’r Ffederasiwn Bwyd a Diod (FDF) eu blaenoriaethau ar y cyd ar gyfer polisi masnach y DU.

28 Mawrth: Erthygl 50 - gyda sylwadau gan yr awdur. (Politico)

28 Mawrth: Erthygl 50: Dwy Flynedd Hanfodol ar gyfer Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad. (Cymdeithas Ffermwyr Tenant)

5.       Yr Alban

Senedd yr Alban

15 Mawrth: Dadl ar adroddiadau’r Pwyllgor Diwylliant, Twristiaeth, Ewrop a Materion Allanol : Canlyniad refferendwm yr UE a’i oblygiadau ar gyfer yr Alban.

Llywodraeth yr Alban

15 Mawrth: Effaith Brexit ar brifysgolion.

16 Mawrth: Ymgais Prif Weinidog y DU i rwystro dewis yr Alban “yn annemocrataidd ac yn anghynaliadwy”.

20 Mawrth: Rhaid i ewyllys Senedd genedlaethol yr Alban gael ei pharchu - Prif Weinidog yr Alban: hawl sofran pobl yr Alban i benderfynu ffurf eu llywodraeth.

24 Mawrth: Meithrin cysylltiadau â Bafaria - Prif Weinidog yr Alban yn llofnodi datganiad economaidd ar y cyd.

24 Mawrth: Cadarnhau statws myfyrwyr yr UE - dim ffioedd dysgu yn yr Alban i fyfyrwyr yr UE sy’n cofrestru ar gyfer 2018-19.

6.       Gogledd Iwerddon

Cynulliad Gogledd Iwerddon

28 Mawrth: Datganiad Llafar yr Ysgrifennydd Gwladol ar y sefyllfa wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon.

7.       Adroddiadau eraill a gyhoeddwyd

§    Cadwch fasnach ddidrafferth: Yr hyn y mae ar gwmnïau bach ei eisiau gan BrexitFfederasiwn y Busnesau Bach